Syniadau Arloesol gyda Dafydd Loughran
Manage episode 331516382 series 3160301
内容由Bengo Media and Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru提供。所有播客内容(包括剧集、图形和播客描述)均由 Bengo Media and Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru 或其播客平台合作伙伴直接上传和提供。如果您认为有人在未经您许可的情况下使用您的受版权保护的作品,您可以按照此处概述的流程进行操作https://zh.player.fm/legal。
Mae Cymru o’r maint perffaith i fedru arloesi ym myd iechyd a gofal yn ôl un entrepreneur o Gymro.
Yn y podlediad hwn bydd Dafydd Loughran, clinigwr ac entrepreneur sefydlwr cwmni Concentric yng Nghaerdydd yn trafod sut mae ecosystem iechyd digidol Cymru mewn sefyllfa arbennig o dda i greu pethau arloesol ym myd iechyd.
“Mae gan y GIG enw da ac mae cyfle gyda ni i fod ar y blaen, ond mae angen llai o gymhlethdodau yn y broses,” meddai. “Mae maint Cymru yn berffaith i ddangos bod sustemau yn gweithio felly mae angen i ni wneud Cymru yn le hawdd i fusnesau arloesol weithio….. mae’n dda bod ni’n gallu gwneud pethau ar raddfa genedlaethol.”
Yn wreiddiol o Gaerfyrddin, astudiodd Dafydd feddygaeth yng Nghaerdydd, ac yna hyfforddiant llawfeddygol yng Nghymru. Cyn sefydlu Concentric, ymgymerodd â chymrodoriaethau deallusrwydd artiffisial yn Babylon Health yn Llundain, ac mae'n dod â'r arbenigedd hwnnw i'r ecosystem technoleg iechyd sy'n ehangu yng Nghymru.
Mae cwmni Concentric wedi datblygu llwyfan sy'n cynorthwyo cleifion sy'n wynebu llawdriniaeth i wneud penderfyniadau ar y cyd â'u clinigwyr. Mae Dafydd o’r farn taw prynwriaeth o’r fath yma fydd un o themâu pwysicaf y byd iechyd yn y dyfodol ynghyd â defnyddio data i gefnogi penderfyniadau.
Rhodri Griffiths, aelod o Fwrdd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru yw cyflwynydd Syniadau Iach.
…
continue reading

16集单集